Rhifyn 41

Gwyllu’r Gorwel? Grym amser ac iwtopia yn stori fer ‘Amser Presennol ac Amser Gorffennol’ Joseba Sarrionandia

Ymdrinnir yn yr erthygl hon â’r stori fer ‘Denbora Presentea eta Denbora Pasatua’ (‘Amser Presennol ac Amser Gorffennol’) yn y casgliad o gerddi ‘Hnuy illa nyha majah yahoo: Poemak 1985–1995 (cerddi 1985–1995) gan yr awdur o Wlad y Basg, Joseba Sarrionandia. Defnyddia’r awdur ddigwyddiadau gwaedlyd mis Mawrth 1988 ym Melfast, Llyfr XI Cyffesion Awstin Sant, yn ogystal â’r thema o deithio drwy amser sy’n ymgordeddu drwy’r stori fer, er mwyn ymchwilio i natur a grym amser a’r berthynas rhyngddo a hunaniaeth, cenedlaetholdeb, alltudiaeth a pherthyn gwleidyddol.

 

Dadansoddir yr elfennau hyn yng nghyd-destun gwleidyddiaeth estheteg a llenyddiaeth yn ogystal â’r berthynas rhwng hunaniaeth a thrais gwleidyddol, gan gyfeirio at waith nifer o ysgolheigion, yn eu plith yr athronydd Jacques Rancière, y theorïwyr gwleidyddol Naeem Inayatullah a David Blaney, yr ysgolhaig beirniadol Jenny Edkins a’r economegydd gwleidyddol Amartya Sen, a hynny er mwyn dadlau bod y cysyniad o wahaniaeth o fewn cymunedau gwleidyddol yn ogystal â rhyngddynt yn parhau i fod yn greiddiol i fywiogrwydd diwylliannau sy’n cydfodoli â’i gilydd.

Allweddeiriau

Joseba Sarrionandia, amser, iwtopia, cenedlaetholdeb, alltudiaeth, perthyn gwleidyddol, trais gwleidyddol.

Cyfeirnod

Carlin, P. (2026), ‘Gwyllu’r Gorwel? Grym amser ac iwtopia yn stori fer “Amser Presennol 
ac Amser Gorffennol” Joseba Sarrionandia’, Gwerddon, 41. https://doi.org/10.61257/GWER4104 

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0002-7810-3910
Arfarnu:

Mae'r erthygl hon wedi cael ei harfarnu gan gymheiriaid drwy broses ddwbl-ddall Gwerddon.

Trwydded

Mae'r erthygl hon wedi’i rhyddhau dan drwydded ryngwladol Creative Commons BY 4.0. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.

Nôl i erthyglau