Mae’r erthygl hon yn rhoi enghraifft o gymhwyso technegau ymchwil weithredol trwy optimeiddio timau Pokémon. Fformiwleiddir y broblem fel problem rhaglennu llinol amlamcan, a chanfyddir y ffrynt Pareto trwy ddefnyddio’r feddalwedd PuLP yn Python. Cymherir datrysiadau optimaidd Pareto trwy efelychiad Monte Carlo o frwydrau Pokémon.
Enillodd yr erthygl hon Wobr Gwerddon 2023.
Allweddeiriau
rhaglennu llinol amlamcan, efelychu Monte Carlo, y ffrynt Pareto, Pokémon, ymchwil weithredol.