Rhifyn 34

Rhaglennu llinol amlamcan i ganfod y tîm Pokémon gorau (enillydd Gwobr Gwerddon 2021–23)

Mae’r erthygl hon yn rhoi enghraifft o gymhwyso technegau ymchwil weithredol trwy optimeiddio timau Pokémon. Fformiwleiddir y broblem fel problem rhaglennu llinol amlamcan, a chanfyddir y ffrynt Pareto trwy ddefnyddio’r feddalwedd PuLP yn Python. Cymherir datrysiadau optimaidd Pareto trwy efelychiad Monte Carlo o frwydrau Pokémon.

 

Enillodd yr erthygl hon Wobr Gwerddon 2023.

Allweddeiriau

rhaglennu llinol amlamcan, efelychu Monte Carlo, y ffrynt Pareto, Pokémon, ymchwil weithredol.

Cyfeirnod

Geraint Palmer, ‘Rhaglennu llinol amlamcan i ganfod y tîm Pokémon gorau’, Gwerddon, 34, Hydref 2022, 68–83.

Rhif adnabod Orcid yr awdur(on)
0000-0001-7865-6964
DOI

10.61257/ZWKL7677

Nôl i erthyglau