Mae’r erthygl hon yn dadansoddi’r berthynas rhwng siaradwyr Cymraeg a Saesneg yn y golygfeydd tafarn mewn dwy nofel gyfoes o dde Cymru, sef Y Tiwniwr Piano gan Catrin Dafydd (2009) a The Book of Idiots gan Christopher Meredith (2012), yng ngoleuni damcaniaethau athronyddol am yr ‘arall’ ac aralledd. Olrheinir datblygiad cysyniad yr ‘arall’ gan ystyried gwaith athronwyr a damcaniaethwyr diwylliannol megis Georg Hegel, Simone de Beauvoir, Frantz Fanon a Homi Bhabha. Trwy droi at waith Charlotte Williams a Simon Brooks, dadleuir y gallai siaradwyr Cymraeg a Saesneg Cymru fel ei gilydd brofi aralledd, ac yna try’r erthygl at y nofelau er mwyn archwilio sut yr adlewyrchir hyn mewn testunau ffuglennol cyfoes. Daw’r erthygl i gasgliad ynglŷn ag arwyddocâd aralledd i’r dychymyg a’r hunaniaeth Gymreig gyfoes, ac awgryma sut y gallai syniadau athronyddol eraill ein helpu i ganfod tir cyffredin rhwng dwy brif gymuned ieithyddol y genedl.
Allweddeiriau
Aralledd, yr Arall, ffuglen, dwyieithrwydd, ôl-drefedigaethed, athroniaeth, hunaniaeth, amlddiwylliannedd, ieithoedd lleiafrifol, iaith.
Cyfeirnod
Sheppard, L. (2016), ‘Troi Dalen “Arall”: Ail-ddehongli’r berthynas rhwng cymunedau Cymraeg a Saesneg de Cymru mewn dwy nofel ddiweddar yng ngoleuni ffigwr yr “arall”’, Gwerddon, 21, 26–46. https://doi.org/10.61257/JUMF9729