Yn yr erthygl hon, ceir dadansoddiad o gynnwys pump o raglenni dogfen Saesneg am y Rhyfel Byd Cyntaf a ddarlledwyd gan BBC Wales yn ystod cyfnod y canmlwyddiant. Ystyrir y modd y caiff storïau o Gymru am y Rhyfel Byd Cyntaf (megis Hedd Wyn, brwydr Coedwig Mametz a David Lloyd George) eu cyflwyno i gynulleidfaoedd di-Gymraeg, ynghyd â’r sylw a’r diffyg sylw i rai pynciau a themâu yn ymwneud â phrofiadau Cymru a’i phobl yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Ceir elfen gymharol i’r dadansoddiad sy’n ystyried y tebygrwydd a’r gwahaniaethau rhwng y portread o brofiadau Cymru a’r Rhyfel Byd Cyntaf yn y rhaglenni dogfen Saesneg o gymharu â rhaglenni dogfen Cymraeg ar gyfer S4C dros y deugain mlynedd ddiwethaf.
Allweddeiriau
Cymru, Rhyfel Byd Cyntaf, rhaglen ddogfen, teledu, BBC, S4C, Hedd Wyn, Mametz, David Lloyd George
Cyfeirnod
Palmer, N. (2026), ‘“Who was Hedd Wyn?”: Cyflwyno elfennau o naratif Cymreig y Rhyfel Byd Cyntaf mewn rhaglenni dogfen Saesneg ar gyfer BBC Wales adeg y canmlwyddiant (2014–2017)’, Gwerddon, 41. https://doi.org/10.61257/GWER4102.
Arfarnu:
Mae'r erthygl hon wedi cael ei harfarnu gan gymheiriaid drwy broses ddwbl-ddall Gwerddon.
Trwydded
Mae'r erthygl hon wedi’i rhyddhau dan drwydded ryngwladol Creative Commons BY 4.0. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.