Rhifyn 10/11

'Y Golau a Ddychwel': Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru

Diben yr erthygl hon yw edrych ar foddau o ddefnyddio cerddoriaeth fel dull o gyfathrebu gyda chleifion sydd yn dioddef o ddementia, a hynny o fewn y cyd-destun Cymreig. Mae’r gwaith ymchwil yn seiliedig ar brofiadau’r awdur wrth ganu i gyfeiliant y delyn Geltaidd mewn uned asesu dementia a chartrefi henoed yn ardal Pen Llŷn yn ystod Hâf 2010, a’r rhyfeddod o weld cleifion oedd yn dioddef o ddementia yn cofio geiriau i ganeuon cyfarwydd pan nad oedd synnwyr i gael wrth sgwrsio â hwy. O ganlyniad, dyma fynd ati i astudio sut roedd cerddoriaeth yn medru bod o fudd i gleifion oedd yn dioddef o’r cyflwr hwn. Mae’r erthygl yn datgelu a dadansoddi’r canlyniadau hyn.

Allweddeiriau

Dementia, henoed, cerddoriaeth fel modd o gyfathrebu, Alzheimer’s, Canu i’r Cof.

Cyfeirnod

Williams, N. (2012), '"Y Golau a Ddychwel": Cerddoriaeth a dementia yng Nghymru', Gwerddon, 10/11, 113-31. https://doi.org/10.61257/FAOT4067 

Nôl i erthyglau