Dadl greiddiol yr ysgrif yw y byddai’n werth gosod drama nodedig Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, yng nghyd-destun nifer o nofelau Saesneg Cymru a gyhoeddwyd ar droad y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n ymdrin â pherthnasedd yr hen bendefigaeth i’r Gymru Newydd yr oedd mudiad Cymru Fydd yn ei hybu. Awgrymir y gall amgyffred y testunau hyn finiogi a chyfoethogi ein dehongliad o ddrama sy’n gynnil ac yn amwys iawn ei goblygiadau.
Allweddeiriau
Saunders Lewis, Gwaed yr Uchelwyr, Cymru Fydd, beirniadaeth lenyddol, pendefigaeth, Radicaliaeth.