Gan ddefnyddio statws cyfredol yr iaith Gymraeg mewn addysg ôl-16 a gweinyddu cyfiawnder fel modelau, amcan yr erthygl hon yw esbonio cylchred o ddiffyg defnydd ieithyddol, sydd yn bodoli er gwaethaf darpariaeth ffurfiol ar gyfer gwasanaethau ac adnoddau drwy gyfrwng iaith leiafrifol. Wedi hynny, eglurir ymhle y gellir canfod gwendidau o fewn y rhediad hwn. Yna cloriannir sut gellir defnyddio deddfwriaeth a pholisïau cyfredol mewn modd mwy effeithlon er mwyn newid ymddygiad ieithyddol.
Allweddeiriau
Polisi iaith, addysg, ymddygiad ieithyddol.
Cyfeirnod
Huws, C. (2011), 'Yr iaith Gymraeg fel model ar gyfer torri’r cylch diffyg defnydd mewn cyd-destun ieithoedd lleiafrifol', Gwerddon, 8, 7-27. https://doi.org/10.61257/RYTX8736