Rhifyn 42

Yr Iaith Gymraeg, Tirweddau a Newid Hinsawdd: Beth yw eu harwyddocâd i ymlyniad pobl i leoedd

Mae’r erthygl ddamcaniaethol a chysyniadol hon yn archwilio lleisiau o Gymru er mwyn deall cysylltiadau rhwng yr iaith Gymraeg, tirweddau Cymru, ac ymlyniad lle. Wrth feddwl am her fwyaf ein hoes, newid hinsawdd, mae’n bwysig deall sut y bydd hyn yn  effeithio ar y ffordd yr ydym yn cadw a diogelu treftadaeth genedlaethol a lleol Cymru. Er mwyn gwneud hyn, mae damcaniaeth ymlyniad lle a’r fframwaith Person-Proses-Lle wedi’i gymhwyso. Trwy leisiau pobl Cymru, mae’r astudiaeth hon wedi darganfod bod y Gymraeg yn bwysig wrth i bobl ymlynu at le. Mae’r drafodaeth yn ystyried damcaniaeth ymlyniad at le mewn ffordd newydd gan ystyried enghreifftiau o dri set o ddata. Fel cyfraniad newydd i’r maes, datblygir model Iaith-Ymlyniad er mwyn ddangos bod y Gymraeg yn gweithredu fel llinyn aur sy’n cysylltu Person-Proses-Lle ac yn cario treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol.

Allweddeiriau

Newid hinsawdd, y Gymraeg, treftadaeth ddiwylliannol anniriaethol, ymlyniad lle, tirwedd.

Cyfeirnod

St Leger, L., Beech, E-L., a Tenbrink, T. (2026), ‘Y Gymraeg, tirweddau a newid hinsawdd: Beth yw eu harwyddocâd i ymlyniad pobl i leoedd?’, Gwerddon, 42. https://doi.org/10.61257/GWER4204 

Nôl i erthyglau