Gwobr Gwerddon
Noddir Gwobr Gwerddon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a dyfernir y wobr bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf.
Cyflwynir enwebiadau ar gyfer y wobr gan aelodau o Fwrdd Golygyddol Gwerddon, a dewisir yr enillydd gan y Golygydd a’r Is-olygydd. Dyfernir y wobr yn seiliedig ar gyfraniad yr erthygl i’r maes arbenigol o dan sylw, diddordeb cyffredinol, rhwyddineb darllen, grym y ddadl, ac ansawdd y dystiolaeth ysgolheigaidd a gyflwynir yn yr erthygl.
Cyflwynir gwobr ariannol i’r ymgeisydd llwyddiannus yn ogystal â thlws swyddogol, a noddir gan y Gymdeithas Ddysgedig. Caiff enillwyr y wobr hefyd ymuno â’r Bwrdd Golygyddol fel sylwedyddion am ddwy flynedd.