Erthygl ar Pokémon yn ennill gwobr Gwerddon 2023

Enillydd y wobr eleni yw Dr Geraint Palmer, darlithydd yn yr Ysgol Fathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd, gyda’i erthygl ‘Rhaglennu llinol amlamcan i ganfod y tîm Pokémon gorau.’

Noddir Gwobr Gwerddon gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a dyfernir y wobr bob dwy flynedd i awdur yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn Gwerddon yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf. 

Yn wreiddiol o’r Rhondda, astudiodd Geraint Palmer BSc Mathemateg ym Mhrifysgol Aberystwyth, cyn derbyn PhD yng Nghaerdydd ar fodelu stocastig systemau ciwio. Mae bellach yn aelod o’r grŵp ymchwil weithredol yn yr Ysgol Fathemateg yng Nghaerdydd, lle y mae’n gweithio gyda byrddau iechyd lleol gan gymhwyso technegau modelu, data, ac optimeiddio i broblemau ym maes rheoli gofal iechyd. Mae’n frwdfrydig am feddalwedd ffynhonnell agored, ac yn gymrawd y Software Sustainability Institute.  

Mae ei erthygl yn Gwerddon yn rhoi enghraifft o gymhwyso technegau ymchwil mathemateg i optimeiddio timau Pokémon. Wrth esbonio’r erthygl, dywedodd Geraint Palmer:   

“Maes mathemategol yw ymchwil weithrediadol sy’n ymwneud â datrys problemau cyfuniadol a modelu systemau stocastig. Yn yr erthygl hon cyflwynais rhai technegau safonol o'r maes er mwyn datrys problem hwyliog sydd yn cynnwys priodweddau cyfuniadol a stocastig, hynny yw dewis y tîm gorau o Pokémon. Defnyddiais raglennu llinol cyfanrifol amlamcan er mwyn dewis pa Pokémon sy'n ymddangos ar y tîm, a pha symudiadau sydd ganddynt. Yna defnyddiais efelychu Monte Carlo er mwyn gwerthuso pa mor effeithiol y mae'r tîm yn perfformio mewn brwydrau. Mae gan dechnegau tebyg cymwysiadau mewn nifer fawr o ddiwydiannau, er enghraifft amserlennu llawdriniaethau, a rhagfynegi effaith staffio ar amseroedd aros.”  

Cyflwynwyd enwebiadau ar gyfer y wobr gan aelodau o Fwrdd Golygyddol Gwerddon, a gwaith y beirniaid, yr Athro Anwen Jones a Dr Hywel Griffiths, sef golygydd ac is-olygydd Gwerddon, oedd dewis pwy fyddai’n dod i’r brig. Roedd y ddau’n gytûn mai erthygl Dr Geraint Palmer oedd yn fuddugol eleni.   

Dywedodd Dr Hywel Griffiths, is-olygydd Gwerddon:     

“Ry’n ni’n llongyfarch Geraint yn wresog iawn ar ennill Gwobr Gwerddon eleni. Gwobrwywyd yr erthygl ar sail safon yr ysgolheictod a gyflwynir, ei harwyddocâd ar gyfer deall a dadansoddi'r hyn sy’n digwydd yn y byd heddiw, ei gwreiddioldeb a’i hygyrchedd i rai y tu allan i faes mathemateg. Mae’r elfennau hyn yn crisialu bwriad cyfnodolyn Gwerddon. Diolch o galon i Geraint, ac i’r holl awduron sydd wedi cefnogi Gwerddon trwy gyflwyno gwaith a thrwy adolygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ry’n ni’n awyddus iawn i dderbyn cyfraniadau ysgolheigaidd o bob maes ymchwil.” 

Noddir y wobr gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru, a dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd y Gymdeithas:  

“Mae Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn falch o gefnogi Gwerddon ac ysgolheictod cyfrwng Cymraeg. Rwy’n falch hefyd o weld Dr Geraint Palmer, gwyddonydd gyrfa gynnar, yn ennill y wobr eleni. 

Bydd Geraint yn derbyn tlws ynghyd â £100 yn rhoddedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru yn ystod derbyniad y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar ddydd Mercher, 9 Awst, ar stondin y Coleg am 4pm. 

Geraint Palmer ac Iwan Morus (Cymdeithas Ddysgedig Cymru) a'r wobr