Mae’r erthygl hon yn trafod gwaith ymchwil ar heriau ynganu siaradwyr I1 Sbaeneg sy’n dysgu Cymraeg. Casglwyd y data ar ffurf grwpiau ffocws a holiaduron gyda thiwtoriaid a dysgwyr y Gymraeg yn y Wladfa, Patagonia. Cymerodd naw tiwtor ran mewn grwpiau ffocws, pump o’r Ariannin a phedwar o Gymru, gyda’r pedwar hyn â phrofiad o weithio yn y Wladfa. Cafwyd data holiaduron am heriau ynganu gan 24 o ddysgwyr.
Mae’r canlyniadau’n dangos bod siaradwyr I1 Sbaeneg yr Ariannin yn wynebu heriau tra gwahanol i’w cyfoedion I1 Saesneg wrth gaffael y Gymraeg, ac y gellir egluro’r heriau hyn mewn perthynas â throsglwyddiad ffonolegol o’u hiaith gyntaf. Mae’r ymchwil yn esgor ar wahaniaeth barn rhannol rhwng y tiwtoriaid a’r dysgwyr ac ystyrir rôl canfyddiad (perception) yn y broses o gaffael seiniau ail iaith. Argymhellir y byddai casglu data ar gefndir ieithyddol dysgwyr y Gymraeg yn allweddol i ddatblygiad y sector Dysgu Cymraeg a Chynllun yr Iaith Gymraeg yn Nhalaith Chubut er mwyn cynnwys a chefnogi dysgwyr o bob cefndir ieithyddol.
Allweddeiriau
Ynganu, dysgu Cymraeg, caffael ail iaith, Sbaeneg, Y Wladfa (Patagonia), trosglwyddiad ffonolegol, seineg.
Cyfeirnod
Brosschot, M., Cooper, S., a Webb-Davies, P. (2026), ‘Heriau ynganu’r Gymraeg i
ddysgwyr Sbaeneg iaith gyntaf: profiadau dysgwyr a thiwtoriaid yn y Wladfa’, Gwerddon,
41. https://doi.org/10.61257/GWER4104
Arfarnu:
Mae'r erthygl hon wedi cael ei harfarnu gan gymheiriaid drwy broses ddwbl-ddall Gwerddon.
Trwydded
Mae'r erthygl hon wedi’i rhyddhau dan drwydded ryngwladol Creative Commons BY 4.0. Gweler testun y drwydded am ragor o fanylion.