Rhifyn arbennig: Daearyddiaeth
1 Mawrth 2018
Daearyddiaeth yw thema ail rifyn arbennig rhithiol Gwerddon. Yr Athro Rhys Jones, Prifysgol Aberystwyth, sy'n cyflwyno'r rhifyn hwn.
Pleser o’r mwyaf yw cael ysgrifennu’r cyflwyniad i’r rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon ar Ddaearyddiaeth. Dengys yr erthyglau a gynhwysir yn y rhifyn hwn yr amrediad o themâu a astudir o fewn Daearyddiaeth gyfoes. Mae’n bwnc eang dros ben sy’n cwmpasu sawl maes gwahanol; o astudiaethau o’r prosesau sy’n llunio hunaniaethau cyfoes, i ymchwiliadau manwl o’r prosesau cemegol sy’n gysylltiedig â llygredd o bob math. Er y gall edrych fel pwnc eclectig ar brydiau, yr hyn sy’n uno’r holl astudiaethau hyn yw eu hymdrech i ddeall cyfraniad safbwynt neu ddynesiad daearyddol – un sy’n pwysleisio arwyddocâd nodweddion daearyddol megis gofod, lle, graddfa, symudedd, yr amgylchedd ac ati – ar gyfer deall a datrys yr amryw heriau sy’n wynebu ein byd.
Mae nifer o resymau penodol pam y dylwn ni fod yn dathlu cyfraniad daearyddwyr a Daearyddiaeth yn y rhifyn rhithiol hwn o Gwerddon. Yn gyntaf, mae tystiolaeth yn dangos bod yr heriau sy’n wynebu ein byd yn cynyddu mewn amlder a dwyster, a bod angen dirfawr am ddehongliadau daearyddol er mwyn mynd i’r afael â hwy. Sut y gallwn ni geisio dechrau dehongli trychineb y Rohingya yn Myanmar neu ffoaduriaid o Syria yn Ewrop heb ddeall yr anhafaliadau gofodol rhwng gwledydd gwahanol, y dychymyg daearyddol sy’n cysylltu rhai pobl â thiriogaethau penodol ac yn eu gwahardd o diriogaethau eraill, ynghyd â’r ymdrechion cynyddol sydd yn ein byd i reoli symudedd pobl? Yn yr un modd, sut y gallwn ni geisio dechrau deall her newid hinsawdd heb ystyried yr holl brosesau amrywiol sy’n gysylltiedig â’r newid pellgyrhaeddol hwn; boed y newidiadau sy’n digwydd i lefel y môr, yr olion o newidiadau hanesyddol yn natur yr hinsawdd a geir mewn rhewlifoedd a llenni iâ, y prosesau ffisegol sy’n digwydd yn yr atmosffêr, a’r ffyrdd anghynaladwy o drefnu economïau a chymdeithasau’r byd. Cynigia safbwynt daearyddol ddull effeithiol a synthetig, felly, o ddeall a cheisio datrys yr heriau amrywiol hyn.
Yn ail, mae galw amlwg yng Nghymru am y sgiliau penodol a feddir gan ddaearyddwyr, ac yn enwedig daearyddwyr sy’n gallu gweithio’n ddwyieithog. Un o’r datblygiadau mwyaf cyffrous yn y Gymru gyfoes yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, deddf sy’n gorfodi pob corff cyhoeddus yng Nghymru – Llywodraeth Cymru, llywodraethau lleol, Parciau Cenedlaethol, Byrddau Iechyd ac ati – i hyrwyddo llesiant a datblygiad cynaliadwy yn yr holl benderfyniadau a wneir ganddynt. Nodir saith nod llesiant fel rhan o’r Ddeddf – sef creu Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, Cymru lewyrchus, Cymru gydnerth, Cymru iachach, Cymru sy’n fwy cyfartal, Cymru o gymunedau cydlynol a Chymru a chanddi ddiwylliant bywiog lle y mae’r Gymraeg yn ffynnu – gyda’r bwriad o gyrraedd y nodau hyn erbyn 2050. Yr hyn sy’n nodweddiadol i mi yw’r ffaith fod safbwynt daearyddol yn gwbl greiddiol i’r holl nodau hyn, yn enwedig wrth ystyried y rhyngberthnasau posib sy’n bodoli rhyngddynt. Ac, o gofio’r pwyslais ar y nod o greu Cymru lle mae’r Gymraeg yn ffynnu, dena’r Ddeddf ein sylw at yr angen i sicrhau bod gan y dynesiad daearyddol hwn bwyslais ar y Gymraeg ac ar rôl daearyddwyr dwyieithog yn hyrwyddo holl nodau’r Ddeddf.
Yn olaf, credaf ei bod yn gwbl addas i gyhoeddi’r rhifyn rhithiol hwn eleni gan ein bod yn dathlu canmlwyddiant Daearyddiaeth fel pwnc yng Nghymru. Ganrif yn ôl y crëwyd Cadair Daearyddiaeth Gregynog yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ar sail rhodd hael iawn gan deulu Davies Llandinam a Gregynog. Penodwyd yr Athro Herbert John Fleure i’r gadair honno a dyna gychwyn ffurfiol ar Ddaearyddiaeth fel pwnc prifysgol yng Nghymru. Tyfodd yr Adran Ddaearyddiaeth yn Aberystwyth yn adran fwyaf blaenllaw Prydain erbyn yr 1950au a’r 1960au o dan arweinyddiaeth yr Athro Emrys Bowen, a sbardunodd y datblygiad hwn ffurfiant adrannau Daearyddiaeth eraill yn Abertawe, Bangor a Chaerdydd maes o law. Ac wrth gwrs, deall daearyddiaeth Cymru fel gwlad ac, o’i ddeall, creu dulliau ymarferol o’i wella, oedd rhai o brif amcanion yr holl adrannau hyn o’r cychwyn cyntaf. Mae’r gwaith hwn yn parhau hyd heddiw yng nghyd-destun prosiectau fel: CHERISH, sy’n ceisio deall goblygiadau newid hinsawdd ar gyfer treftadaeth arfordirol Cymru; Living Wales, sy’n hyrwyddo’r defnydd o luniau lloeren fel tystiolaeth ar gyfer polisïau amgylcheddol y wlad; WISERD Cymdeithas Sifil, lle y ceisir diffinio rôl mudiadau gwirfoddol yn y Gymru gyfoes. Bu daearyddwyr yn ganolog i’r ymdrech i geisio deall Cymru ers canrif bellach a, hyd y gwelaf fi, bydd angen iddynt chwarae rôl flaenllaw yn yr ymdrechion i geisio gwneud hynny am gan mlynedd arall.
Rhydd y rhifyn rhithiol hwn gyfle i ni, felly, i ddathlu cyfraniad Daearyddiaeth a daearyddwyr i’r ymdrech o geisio llunio dealltwriaethau trylwyr a synthetig o Gymru a’r byd, gyda’r bwriad amlwg o geisio defnyddio’r dealltwriaethau hyn fel ffordd o liniaru’r heriau amrywiol sy’n wynebu’r ddynoliaeth a’r amgylchedd. Diolch i gyfnodolyn Gwerddon am y cyfle i ni allu gwneud hyn ac, yn bennaf oll, i’n galluogi ni i wneud hyn drwy gyfrwng y Gymraeg.